Ydych chi eisiau gwirfoddoli?
Beth bynnag fo’ch sefyllfa, gall CSV gynnig cyfle i chi wirfoddoli a fydd yn eich helpu i feithrin sgiliau ymarferol newydd drwy roi o’ch amser a’ch egni, cyfarfod â phobl newydd a helpu i gefnogi eich cymuned.
Ydych chi’n chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc?
Mae gan CSV enw da am gynnig cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc ledled y wlad. Mae gwirfoddolwyr CSV yn helpu i ddarparu gwasanaethau allweddol yn ein cymunedau ym mhrif ddinasoedd, cymoedd ac ardaloedd gwledig Cymru.
Prosiectau gwirfoddoli presennol
Cynorthwyo troseddwyr ifanc a phobl ifanc wedi dadrithio
Yng Nghasnewydd, mae gwirfoddolwyr CSV wrthi’n cynorthwyo troseddwyr ifanc i greu dyfodol newydd drwy gynnig arweiniad a chymorth iddynt ar adegau anodd yn eu bywydau. Mae gwirfoddolwyr CSV lleol yng Nghwmbrân a Phont-y-pŵl yn cefnogi pobl ifanc sy’n wynebu trafferthion yn yr ysgol neu’r coleg ac maent wedi eu hyfforddi i’w hannog yn ôl i fyd addysg.
Cynorthwyo’r anabl
Yn Nhorfaen, rhydd bobl ifanc eu hamser i gynorthwyo’r anabl i fyw’n annibynnol ac maent yn cynnig gofal seibiant allweddol i bobl sy’n dioddef o salwch hirdymor neu anabledd. Caiff myfyrwyr anabl Prifysgol Abertawe gymorth i fwynhau bywyd y brifysgol i’r eithaf diolch i gefnogaeth gwirfoddolwyr llawn amser y CSV.
Gwirfoddolwyr y Mileniwm (MV)
Gall pobl ifanc Torfaen a Blaenau Gwent sefydlu a chynnal eu prosiectau eu hunain gyda chymorth CSV Action Cyfle a Gwirfoddolwyr y Mileniwm.
Gall pobl ifanc ledled Cymru ymuno â Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Gall eu cyfraniad gwirfoddol dderbyn cydnabyddiaeth yn ogystal â Gwobrau Rhagoriaeth wedi eu llofnodi gan Brif weinidog Cymru.
Bod yn gyfaill er mwyn helpu plant i ddysgu Mae dwsinau o wirfoddolwyr yng Nghaerdydd yn dod yn gyfaill i blant oed cynradd ac yn eu cynorthwyo yn ne’r ddinas er mwyn rhoi hwb i’w haddysg ar gyfer ddyfodol disglair.
Yng nghlwstwr Fitzalan yng Nghaerdydd, mae gwirfoddolwyr yn cynorthwyo plant drwy’r cyfnod trosiannol anodd o ysgolion cynradd i uwchradd.
Cysylltwch â ni i weld beth allwn ei wneud i chi
Cred CSV bod gan bawb rhywbeth i’w gynnig a’i ennill drwy wirfoddoli.
Am fanylion pellach cysylltwch â ni ar 029 2041 5717 neu anfonwch e-bost at: csvcymru@csv.org.uk