Mae CSV yn croesawu sgiliau a phrofiad gwirfoddolwyr hŷn ym mhob prosiect.
Gallwch ganfod cyfleoedd i wirfoddoli drwy Raglen Wirfoddoli lwyddiannus a chefnogol y Rhai sydd wedi Ymddeol a Phobl Hŷn – gweler isod – neu ewch i dudalen Gwirfoddoli yng Nghymru i weld prosiectau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi.
Rhaglen Wirfoddoli’r Rhai sydd wedi Ymddeol a Phobl Hŷn (RSVP)
Ydych chi’n chwilio am bwrpas newydd? Eisiau ymwneud â’ch cymuned? Mae croeso i unrhyw un dros 50 oed wirfoddoli, a chroesewir gwirfoddolwyr newydd yn enwedig.
Mae gan RSVP ‘drefnwyr gwirfoddoli’ lleol ledled Cymru a all eich cynorthwyo i ganfod y cyfle gwirfoddoli gorau i chi – yn eich cymuned eich hun.
Mae aelodau RSVP yn gwirfoddoli mewn amryw ffyrdd drwy Gymru gyfan:
- Drwy gynorthwyo plant ysgol gyda’u darllen
- Drwy gynorthwyo prosiectau amgylcheddol
- Drwy fod yn gyfeillion i’r unig
...a llawer mwy.
Enghreifftiau o brosiectau presennol:
Sir Benfro – Ceir i Ofalwyr
Os ydych wedi ymddeol ac yn byw yn Sir Benfro efallai y byddwch am gynorthwyo ein cynllun trafnidiaeth wledig.
Sir Fôn - cyngor i’r rhai sy’n gaeth i’r tŷ
Gallech ymuno â ni a chael hyfforddiant i roi cyngor ar fudd-daliadau i bobl yn eu cartrefi eu hunain.
Gwau tedi bêrs i blant diamddiffyn
Os hoffech wirfoddoli ond na allwch fynd allan, gallech ymuno â Chynllun Gwau RSVP sy’n darparu miloedd o dedi bêrs wedi eu gwau i fabanod diamddiffyn a phlant wedi eu trawmateiddio. Darperir dillad i’r henoed mewn cartrefi preswyl ac ar gyfer apeliadau cymorth dyngarol gan y rhai sy’n gwau hefyd.
Cysylltwch â RSVP CSV yn ein swyddfa yng Nghaerdydd:
Ffôn: 029 2039 0477
E-bost: rsvp@csvwales.freeserve.co.uk